
Helô! Kerry ydw i, Optegydd Dosbarthu a sylfaenydd Eyecadia.
Yn gyntaf, croeso i fy ngwefan. Mae'r diwydiant sbectol yn llawn siopau ac optegwyr sy’n ceisio eich denu, ond gadewch imi egluro pam mae Eyecadia yn unigryw i'n dinas hardd, newydd ni.
Yn Eyecadia, roeddwn i eisiau creu profiad hamddenol, ffynci a gwahanol i bobl sy’n prynu sbectolau. O'r fframiau sbectol i'r gosodiadau a'r ffitiadau, nid eich siop arferol yw hon!Dwi’n hynod angerddol am wneud eich sbectol yn unigryw ac wedi'u teilwra i'ch anghenion. Dyna pam, yn ystod eich ymweliad, y byddwch chi’n cael yr hyn fydd yn berffaith i chi a’ch steil. P’un a ydych chi eisiau sbectol fydd yn sefyll allan, neu bâr bob dydd ar gyfer gwaith, byddwn yn creu’r pâr perffaith i chi.
Practis dosbarthu yn unig yw Eyecadia; mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ddod â'ch presgripsiwn gyda chi wrth archebu gyda ni. Bydd angen iddo fod o fewn y dyddiad ac wedi’i lofnodi gan eich optometrydd.
Edrychaf ymlaen at eich croesawu at fy hafan fach i ar gyfer sbectolau!
